Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3616
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â TATA Steel a Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi bwriad TATA i atal y broses o werthu ei weithfeydd gwneud dur yn y DU?
Dechreuodd yr eitem am 14.39
Dechreuodd yr eitem am 14.53
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Dechreuodd yr eitem am 17.19
Dechreuodd yr eitem am 18.07
Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.
Dechreuodd yr eitem am 18.44
NDM6046
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol
â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a
osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd
Mawrth, 21 Mehefin 2016.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
i. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
ii. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
iii. cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
iv. cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a
v. cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Aelodau:
- nodyn yn egluro’r prif newidiadau o’r cynlluniau blaenorol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2016